
Cylch Meithrin

Yr Eglwys Newydd
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Amseroedd sesiynau a ffi mynychu
Cynhelir sesiynau'r Cylch o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol
9.30am – 12.00pm £18.75 y sesiwn*
1.00pm – 3.30pm £18.75 y sesiwn* (ac eithrio dydd Gwener)
*Darperir byrbryd iachus ar gyfer eich plentyn
​
Gofal cofleidiol
Mae’r Cylch yn darparu gofal cofleidiol o ddosbarth Meithrin Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn ystod y bore a’r prynhawn (ac eithrio dydd Gwener).
​
Cynnig Gofal Plant
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed).


Cofrestru
​​
Os hoffech chi gofrestru eich plentyn ar gyfer lle yng Nghylch Meithrin Yr Eglwys Newydd, e-bostiwch committeecylchyreglwysnewydd@gmail.com gyda’r manylion canlynol:
-
Enw llawn y plentyn
-
Dyddiad geni’r plentyn
-
Cyfeiriad y plentyn
-
Eich perthynas chi â’r plentyn
-
Pa sesiynau sydd eu hangen ar gyfer y plentyn
​
Polisïau
Mae Cylch yn aelod o Mudiad Meithrin ac wedi ei yswirio trwy'r Mudiad. Mae gennym nifer o bolisïau penodol yn seiliedig ar drefniadaeth a gweithgareddau. Mae’r polisïau yn cydymffurfio â gofynion statudol pob maes gan gynnwys data, cyflogaeth, amddiffyn plant a iechyd a
diogelwch. Gwelir y polisïau isod neu gellir gofyn i aelod o staff am ragor o wybodaeth.
​