
Cylch Meithrin

Yr Eglwys Newydd
Cwestiynau cyffredinol
Oes rhaid i’m plentyn fod allan o gewynnau?
​
Nac oes. Rydym yn hapus i newid cewynnau ond gofynnwn i rieni ddarparu cewynnau, wipes ac eli. Rydym hefyd yn barod iawn i gynorthwyo mewn hyfforddiant defnyddio'r tÅ· bach yn annibynnol lle bo angen.
​
​
Oes gwisg ffurfiol?
Nac oes - does dim gwisg ffurfiol ond rydym yn gwerthu crysau-t Cylch Yr Eglwys Newydd. Gofynnwn i chi wisgo eich plentyn mewn dillad sy’n addas ar gyfer chwarae ac sy’n hawdd eu tynnu i ffwrdd. Darperir cyfloedd i’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n creu llanast felly sirhewch bod dillad sbâr yn y bag rhag ofn bod eu hangen. Labelwch pob eitem o ddillad
eich plentyn yn glir os gwelwch yn dda.
Ydych chi’n darparu byrbryd?
Ydyn - darperir byrbryd yn ystod bob sesiwn. Fel arfer caiff y plant ddarn o ffrwyth neu lysieuyn, caws a dŵr/llaeth i’w yfed.
​
A oes lleiafswm/uchafswm o sesiynau y mae’n rhaid i fy mhlentyn fynychu?
Gall eich plentyn fynychu rhwng 1 a 5 sesiwn yr pythons fel bo’r angen. Rydym yn cynghori bod eich plentyn yn mynychu lleiafswm o ddau sesiwn yr wythnos er mwyn eu hannog i ymgartrefu yn y Cylch.