
Cylch Meithrin

Yr Eglwys Newydd
Amdanom ni



Rydym ni yng Nghylch Meithrin Yr Eglwys Newydd yn eich croesawu chi a’ch plentyn yn gynnes iawn. Rydym am weld eich plentyn yn cael pob cyfle i gymdeithasu a datblygu’n dda gyda ni o’r cychwyn cyntaf hyd nes i’ch plentyn symud ymlaen i’r ysgol gynradd.
​
Ysgol Feithrin Gymraeg yw Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd ar gyfer plant 2-4 oed, ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref. Mae'r gofal ar gael i'r disgyblion sydd yn mynychu meithrin rhan-amser Ysgol Melin Gruffydd a hefyd ar gyfer gofal plant 30 awr.
​
Mae’r gweithgareddau strwythuredig yn cynnwys paentio, blociau, lliwio, fideos, jigsos, dawnsio, cerddoriaeth, ioga, tywod, amser stori, dŵr a chwarae dychmygol.
​
Mae’r Arweinydd yn paratoi cynlluniau gwaith ar gyfer bob hanner tymor . Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar gyfer sicrhau datblygiad plant drwy’r llwybrau datblygu canlynol :
-
perthyn
-
cyfathrebu
-
archwilio
-
datblygiad corfforol
-
lles
​
​