

Croeso i Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd
Ein Gweledigaeth
Yn ein Cylch Meithrin, rydym yn darparu amgylchedd Cymraeg cynnes, meithringar ac ysbrydoledig lle caiff pob plentyn ei werthfawrogi fel unigolyn unigryw a galluog. Wedi’n harwain gan egwyddorion y Cwricwlwm newydd i Gymru ac wedi’n hysbrydoli gan y dull Froebelaidd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd chwarae, natur, creadigrwydd a pherthnasoedd ystyrlon wrth gefnogi datblygiad plant ifanc.
Trwy ddysgu dan arweiniad y plentyn, yn seiliedig ar chwarae, a thrwy brofiadau cyfoethog uniongyrchol, rydym yn meithrin dysgwyr hyderus, chwilfrydig ac annibynnol. Rydym yn meithrin ymdeimlad dwfn o berthyn, lles a pharch at yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, gan helpu pob plentyn i ffynnu a chymryd eu camau nesaf gyda hyder.
​
Dyro dy law i mi...
Cefnogir holl blant y Cylch er mwyn iddynt ddatblygu yn:
Unigolion iach, hyderus

Gyfranwyr mentrus, creadigol

Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus

Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
